File:Rhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru.webm
Original file (WebM audio/video file, VP8/Vorbis, length 5 min 21 s, 1,280 × 720 pixels, 1.18 Mbps overall, file size: 45.04 MB)
Captions
Summary edit
DescriptionRhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru.webm |
Cymraeg: Fideo Llywodraeth Cymru: Rhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru.
Bydd y ffilm fer hon yn rhoi tros olwg o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. Ym mis Ionawr 2020 pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gan y Senedd. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth a ddaw’r Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022. Pam wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Plant Cymru? Yn 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil i helpu i ddiogelu hawliau plant. Rydyn ni am roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant a rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Beth yw cosb gorfforol? Mae cosb gorfforol yn cynnwys unrhyw weithred o guro plentyn fel cosb - nid dim ond smacio. Mae gan bob math o gosb gorfforol o dan unrhyw amodau y potensial i fod yn niweidiol i blant. Beth yw’r amddiffyniad cosb resymol? Sefydlwyd y cysyniad o gosb resymol yn 1860. Mae rhieni neu oedolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol os cânt eu cyhuddo o ymosod cyffredin a churo plentyn. Nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael i oedolyn os yw’n cael ei gyhuddo o ymosod ar oedolyn arall. Dros y blynyddoedd, mae deddfwriaeth wedi cyfyngu’r amgylchiadau lle gellid defnyddio’r amddiffyniad ac wedi cyfyngu’r lleoliadau lle gellir cosbi plant yn gorfforol. Mae cosbi corfforol yn barod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant. Rydym ni yn cymryd y cam nesaf ar y daith hon drwy gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol. Beth mae’r byd yn ei gredu? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r sail i’n polisi ni ar gyfer plant. Mae’r Confensiwn yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol yn torri hawliau dynol plant. Mae dros 55 o wledydd ledled y byd eisoes wedi rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol. Rydym ni yn falch o ymuno â nhw. Beth fydd y Ddeddf yn ei wneud a beth na fydd yn ei wneud. Bydd y Ddeddf yn: Cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol. Fydd neb yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Cael gwared ar fwlch cyfreithiol oedd yn caniatáu’r amddiffyniad cosb resymol mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio, gan gynnwys rhai mannau dysgu, addoli, chwarae neu hamdden. Diogelu plant yn gyfreithiol rhag cosbi corfforol – yn union fel rydyn ni’n diogelu oedolion. Gwneud y gyfraith yn fwy clir, fel bod plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yn deall y gyfraith. Helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi arwydd clir na chaiff cosbi plant yn gorfforol ei oddef yng Nghymru. Fydd y Ddeddf DDIM yn: Yn creu trosedd newydd – nid yw’n gwneud mwy na dileu'r amddiffyniad cosb resymol. Ddim yn atal rhieni rhag disgyblu eu plant – mae gwahaniaeth mawr rhwng disgyblu a chosb gorfforol. Ddim yn ymyrryd â gallu rhiant i fod yn rhiant – gall rhieni, wrth gwrs, ymyrryd yn gorfforol, i gadw plentyn yn ddiogel rhag niwed, er enghraifft, neu ei helpu i wisgo neu frwsio dannedd. Beth sy'n digwydd nesaf? Mae'r Senedd wedi pleidleisio i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol a bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022. Rhwng nawr a hynny, cynhelir ymgyrch i roi gwybod i’r cyhoedd am y newid yn y gyfraith, gyda hysbysebion teledu, radio a digidol. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a phlant yn gwybod am y newid i'r gyfraith. Bydd Grŵp o arbenigwyr yn goruchwylio'r gwaith cyfathrebu. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sefydliadau a fydd yn gweithredu'r newid yn y gyfraith. Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn goruchwylio ac yn gwneud argymhellion i sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu’n ymarferol ac yn effeithiol. Caiff y gwaith mwy manwl ei reoli gan bedwar grŵp gorchwyl a gorffen. Mae’r oes wedi newid. Mae agweddau wedi newid. Does dim lle i gosbi plant yn gorfforol yng Nhymru heddiw. I gael mwy o wybodaeth am stopio cosbi corfforol, ewch i: llyw.cymru/stopiocosbicorfforol I gael cyngor positif am rianta ewch i Magu Plant. Rhowch amser iddo. |
Date | |
Source | YouTube: Rhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru – View/save archived versions on archive.org and archive.today |
Author |
Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament |
Licensing edit
- You are free:
- to share – to copy, distribute and transmit the work
- to remix – to adapt the work
- Under the following conditions:
- attribution – You must give appropriate credit, provide a link to the license, and indicate if changes were made. You may do so in any reasonable manner, but not in any way that suggests the licensor endorses you or your use.
This file is licensed under the Open Government Licence version 1.0 (OGL v1.0).
| |
---|---|
Attribution:Welsh Government on YouTube | |
You are free to:
See the Open Government Licence page on Meta-Wiki for more information. http://NationalArchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/1/ OGL v1.0 Open Government License version 1.0 true truehttp://NationalArchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/1/ OGL v1.0 Open Government License version 1.0 true true |
This file, which was originally posted to YouTube: Rhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru, was reviewed on 22 January 2021 by the automatic software YouTubeReviewBot, which confirmed that this video was available there under the stated Creative Commons license on that date. This file should not be deleted if the license has changed in the meantime. The Creative Commons license is irrevocable.
The bot only checks for the license, human review is still required to check if the video is a derivative work, has freedom of panorama related issues and other copyright problems that might be present in the video. Visit licensing for more information. If you are a license reviewer, you can review this file by manually appending | |
File history
Click on a date/time to view the file as it appeared at that time.
Date/Time | Thumbnail | Dimensions | User | Comment | |
---|---|---|---|---|---|
current | 10:09, 22 January 2021 | 5 min 21 s, 1,280 × 720 (45.04 MB) | Llywelyn2000 (talk | contribs) | Uploaded a work by Welsh Government / Llywodraeth Cymru] Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament from https://www.youtube.com/watch?v=wrMvigGuntg with UploadWizard |
You cannot overwrite this file.
File usage on Commons
There are no pages that use this file.
Transcode status
Update transcode statusFile usage on other wikis
The following other wikis use this file:
- Usage on cy.wikipedia.org
Metadata
This file contains additional information such as Exif metadata which may have been added by the digital camera, scanner, or software program used to create or digitize it. If the file has been modified from its original state, some details such as the timestamp may not fully reflect those of the original file. The timestamp is only as accurate as the clock in the camera, and it may be completely wrong.
Software used | Lavf54.3.100 |
---|