1
00:00:07,678 --> 00:00:09,937
Ganwyd Wicipedia yn 2001.
2
00:00:09,982 --> 00:00:15,372
Y nod oedd creu'r gwyddoniadur cod agored mwyaf erioed.
3
00:00:15,603 --> 00:00:19,471
Ceir Wicipedia ei ysgrifennu gan gyfranwyr gwirfoddol.
4
00:00:19,555 --> 00:00:21,317
Gall unrhyw un gyfrannu.
5
00:00:21,428 --> 00:00:22,579
Gadewch i ni weld sut.
6
00:00:23,932 --> 00:00:27,900
Mae gan bob erthygl Wicipedia tab “golygu” ar y brig.
7
00:00:27,939 --> 00:00:31,728
Mae'n gadael i chi wneud yn union fel mae'n dweud:
8
00:00:31,929 --> 00:00:34,559
i olygu'r tudalen rydych yn ei ddarllen.
9
00:00:35,067 --> 00:00:38,079
Nid oes gan Wicipedia staff golygyddol.
10
00:00:38,094 --> 00:00:43,472
Gall pob darllenwr mynd at gynnwys unrhyw dudalen yn y gwyddoniadur a'i golygu,
11
00:00:43,507 --> 00:00:45,607
hyd yn oed heb greu cyfrif.
12
00:00:46,102 --> 00:00:49,602
Mae'r testun yn cael ei fformatio gyda chod arbennig,
13
00:00:49,658 --> 00:00:53,214
ond mae'n iaith syml a hawdd iawn i'w ddysgu.
14
00:00:53,881 --> 00:00:59,436
Wrth gadw eich golygiadau, rydych yn caniatáu i
ryddhau eich cyfraniad dan drwydded rydd agored.
15
00:00:59,567 --> 00:01:03,067
Bydd unrhyw un yn gallu darllen, defnyddio a newid y testun,
16
00:01:03,147 --> 00:01:05,247
hyd yn oed am bwrpasau masnachol,
17
00:01:05,313 --> 00:01:08,131
cyn belled eu bod yn cydnabod awduron yr erthygl
18
00:01:08,131 --> 00:01:11,134
ac yn rhyddhau unrhyw waith deilliadol dan yr un drwydded.
19
00:01:11,683 --> 00:01:14,483
Mae hefyd yn bwysig i gofio bod pob defnyddiwr,
20
00:01:14,528 --> 00:01:17,328
yd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru,
21
00:01:17,357 --> 00:01:20,003
yn gyfrifol am ei gyfraniadau ei hun.
22
00:01:20,591 --> 00:01:24,091
Gall pawb gweld newidiad cyn gynted â'i fod wedi ei gadw.
23
00:01:25,766 --> 00:01:31,146
Nid casgliad o wybodaeth ar hap yw Wicipedia ond gwyddoniadur.
24
00:01:31,266 --> 00:01:34,066
Mae'n gasgliad systematig o wybodaeth ddynol.
25
00:01:34,245 --> 00:01:40,284
Ni chaniateir cyfraniadau fel diffiniadau syml neu waith ymchwil gwreiddiol.
26
00:01:41,730 --> 00:01:48,277
Mae gan bob tudalen ei hanes, sy'n dangos
yr holl fersiynau o'r dudalen ers iddo gael ei greu.
27
00:01:48,567 --> 00:01:51,527
Yn ogystal i amser, dyddiad a chrynodeb o bob addasiad,
28
00:01:51,542 --> 00:01:54,431
mae'r gwefan hefyd yn cadw cofnod o bwy wnaeth y newid.
29
00:01:54,655 --> 00:01:56,623
Os nad yw'r cyfrannwr yn defnyddio cyfrif,
30
00:01:56,623 --> 00:02:00,123
mae ei gyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn hanes y tudalen.
31
00:02:00,773 --> 00:02:04,254
Mae'r hanes yn galluogi darllenwr i gymharu unrhyw ddau fersiwn
32
00:02:04,254 --> 00:02:06,726
ac yn amlygu'r gwahaniaeth rhyngddynt.
33
00:02:07,512 --> 00:02:09,634
Mae pob newidiad i Wikipedia yn cael i gofnodi.
34
00:02:09,665 --> 00:02:13,365
Felly pan rydych yn dechrau arni, mae'n dda i ddefnyddio'r tudalen arbrofi,
35
00:02:13,396 --> 00:02:16,496
neu'r “blwch tywod” - tudalen gellir ei newid heb rwystrau.
36
00:02:16,736 --> 00:02:50,083
Gall defnyddwyr cofrestredig hefyd greu tudalennau blychau tywod personol dan eu tudalen defnyddiwr.
37
00:02:25,013 --> 00:02:27,979
I greu tudalen newydd, does dim ond rhaid creu cyswllt i deitl y tudalen
38
00:02:27,979 --> 00:02:30,804
neu glicio ar “gyswllt coch” sydd eisoes yn bodoli.
39
00:02:30,904 --> 00:02:34,844
Mae'n dda i wirio'n gyntaf nad yw'r tudalen eisoes yn bodoli.
40
00:02:36,047 --> 00:02:38,773
Er mwyn sicrhau cyd-weithio cynhyrchiol,
41
00:02:38,773 --> 00:02:44,805
mae'r gymuned wedi datblygu canllawiau mae gofyn i bob cyfrannwr ei ddilyn a'i gorfodi.
42
00:02:45,297 --> 00:02:50,059
Mae un o'r prif ganllawiau yn ymdrin â sut mae trefnu cynnwys erthygl.
43
00:02:50,083 --> 00:02:53,066
Gadewch i ni edrych ar strwythur cyffredinol erthygl.
44
00:02:53,995 --> 00:03:00,542
Dylai'r “adran arweiniol” crynhoi prif bynciau'r erthygl mewn iaith syml a chryno.
45
00:03:00,852 --> 00:03:06,587
Datblygir yr erthygl fesul adran ac mae'n bosib creu tabl cynnwys yn awtomatig.
46
00:03:07,100 --> 00:03:11,565
Gallwch gynnwys lluniau, diagramau a fideos ar Wicipedia,
47
00:03:11,565 --> 00:03:17,135
ond mae'n holl bwysig bod y deunydd rydych yn ei uwchlwytho ar gael i'w ddefnyddio yn rhydd;
48
00:03:17,135 --> 00:03:19,707
hynny yw, ei fod wedi ei ryddhau dan drwydded rydd.
49
00:03:20,464 --> 00:03:25,317
Dylai'r holl wybodaeth sydd mewn erthygl bod yn ddibynadwy ac yn wiriadwy,
50
00:03:25,317 --> 00:03:28,865
felly mae'n bwysig i ddyfynnu ffynonellau allanol ym mhob erthygl.
51
00:03:28,856 --> 00:03:32,356
Dylai'r ffynonellau hyn fod yn gydnabyddedig am eu cywirdeb.
52
00:03:32,527 --> 00:03:36,666
Ar ddiwedd pob erthygl, ar ôl y prif destun, mae adrannau “technegol”
53
00:03:36,666 --> 00:03:39,942
sy'n rhoi mwy o adnoddau yn ymwneud a'r pwnc.
54
00:03:40,311 --> 00:03:46,844
Mewn rhai meysydd penodol, mae arferion a chanllawiau penodol ar gyfer ysgrifennu erthygl.
55
00:03:48,550 --> 00:03:53,445
Un egwyddor hanfodol o Wicipedia yw'r safbwynt diduedd.
56
00:03:53,445 --> 00:03:56,028
Ni chaiff erthyglau cynnwys barnau personol,
57
00:03:56,028 --> 00:04:00,761
ond dylent esbonio'r holl safbwyntiau mewn modd diduedd a chytbwys,
58
00:04:00,761 --> 00:04:02,979
heb unrhyw ragfarn.
59
00:04:04,384 --> 00:04:08,507
Mae gan bob tudalen hefyd ei dudalen trafodaeth ei hun,
60
00:04:08,507 --> 00:04:11,906
ble gall ysgrifenwyr a chyfranwyr drafod a datblygu erthygl
61
00:04:11,906 --> 00:04:14,052
sy'n adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau.
62
00:04:14,443 --> 00:04:18,721
Yn wahanol i dudalen yr erthygl, mae cyfranwyr yn llofnodi eu sylwadau yma.
63
00:04:18,721 --> 00:04:22,257
Rhaid cofio mai cefnogi a gwella datblygiad yr erthygl yw'r drafodaeth
64
00:04:22,257 --> 00:04:24,451
ac nid lle ar gyfer dadlau estynedig.
65
00:04:25,285 --> 00:04:29,579
Os yw cyfranwyr angen trafod gyda nifer o bobl ar yr un pryd
66
00:04:29,579 --> 00:04:33,571
am broblem gyffredinol neu bwnc sy'n ymwneud a nifer o erthyglau,
67
00:04:33,571 --> 00:04:37,376
gallan ddefnyddio'r “Caffi” neu dudalennau priodol y prosiect.
68
00:04:38,039 --> 00:04:41,285
Mae gan bob defnyddiwr cofrestredig ei dudalen personol ei hun,
69
00:04:41,285 --> 00:04:44,085
ble'r gelli rannu wybodaeth am ei hun.
70
00:04:44,210 --> 00:04:47,737
Mae gan y dudalen hon hefyd ei dudalen trafod ei hun,
71
00:04:47,737 --> 00:04:51,237
ac mae'n gweithio fel mewnflwch negeseuon personol.
72
00:04:52,007 --> 00:04:58,185
Mae'r adran “Cymorth” ar gael pan fyddwch eisiau cymorth technegol gan arbenigwr.
73
00:04:58,420 --> 00:05:01,622
Gallwch ofyn i'r “Oracl” am y cynnwys.
74
00:05:03,019 --> 00:05:06,225
Er mwyn atal fandaleiddio ac ymddygiad ymosodol,
75
00:05:06,225 --> 00:05:09,356
mae rhai defnyddwyr cofrestredig yn “gweinyddwyr”
76
00:05:09,356 --> 00:05:12,059
ac yn gallu ymyrryd a pherfformio rhai tasgau arbennig
77
00:05:12,059 --> 00:05:15,559
fel rhwystro defnyddiwr neu ddileu tudalen neu ei warchod rhag ei olygu.
78
00:05:15,718 --> 00:05:19,672
Gwirfoddolwyr yw'r gweinyddwyr, ac maent wedi eu hethol gan y gymuned.
79
00:05:19,680 --> 00:05:22,322
Maen nhw'n gyfrifol am weithredoedd technegol allweddol
80
00:05:22,342 --> 00:05:27,558
ac yn gorfodi polisïau a chanllawiau'r prosiect,
81
00:05:27,558 --> 00:05:30,358
ond nid ydynt yn gyfrifol am Wicipedia.
82
00:05:31,318 --> 00:05:34,489
Y Wikimedia Foundation sy'n rhedeg Wicipedia.
83
00:05:34,489 --> 00:05:37,818
Mae'n sefydliad di-elw, gyda'i phencadlys yn San Fransisco,
84
00:05:37,818 --> 00:05:41,254
ac yntau sy'n rhoi'r holl adnoddau ar gyfer datblygu'r prosiect.
85
00:05:41,330 --> 00:05:47,180
Mae'n dibynnu ar roddion gan sefydliadau preifat a chyhoeddus
86
00:05:47,180 --> 00:05:51,306
ac yn arbennig ar roddion bychan gan nifer mawr iawn o unigolion.
87
00:05:51,996 --> 00:05:54,152
Er mwyn aros yn hollol annibynnol
88
00:05:54,152 --> 00:05:56,831
a chael cyfraniad cymaint â phosib o wirfoddolwyr,
89
00:05:56,831 --> 00:05:59,582
ni chaniateir dangos hysbysebion ar Wikipedia.
90
00:05:59,913 --> 00:06:04,036
Mae nifer o sefydliadau dros y byd hefyd yn hyrwyddo Wikipedia
91
00:06:04,036 --> 00:06:07,536
a'i chwaer prosiectau mewn gwledydd neu ranbarthau penodol.
92
00:06:08,187 --> 00:06:11,453
Sefydlwyd Wikimania yn yr Eidal yn 2005.
93
00:06:11,453 --> 00:06:15,044
Fel prosiectau eraill Wikimedia Foundation, mae Wikimedia Italia
94
00:06:15,044 --> 00:06:19,472
yn hyrwyddo pob math o brosiectau ac ymgyrchoedd sy'n hyrwyddo cynnwys rhydd ac agored.
95
00:06:19,853 --> 00:06:27,908
Gall y wasg, ysgolion neu gwmnïau gysylltu â ni am fwy o wybodaeth am Wicipedia.